About Me (Cymraeg)    
       
 

Mae Gwenda Sippings yn dal cymwysterau ar gyfer swydd gwasanaeth gwybodaeth proffesiynol. Mae hi wedi bod Pennaeth Gwybodaeth yn yr MDU. Yn ddiweddar cyflawnodd rôl Pennaeth Gwybodaeth gyda chwmni cyfreithiol Linklaters LLP. Ei swydd yno oedd llywio datblygu a rheoli rhwydwaith mewnol gwasanaeth gwybodaeth uchelradd byd-eang.

Cyn hyn bu'n gweithio ar lefelau uwchradd yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Bu'n rheolwr dros dro yn llywio cynllun pwysig rheolaeth gwybodaeth a chofnodion Llywodraeth Leol, a hefyd fel Cyfarwyddwr Adnoddau Gwybodaeth Llywodraeth Ganolog Cyllid a Thollau E.M., lle bu'n rhoi newidiadau i reolaeth gwybodaeth a hysbysrwydd mewn grym, yn canlyn cyfuniad Cyllid Gwladol a Thollau ac Ecseis E.M.

Bu'n gweithio hefyd gyda chwmni Clifford Chance fel Pennaeth Gwybodaeth yn eu swyddfa yn Llundain.

Mae ganddi brofiad o drefnu strategaeth a ffurfio polisïau rheoli a datblygu gwasanaethau gwybodaeth o hysbysrwydd, ac arwain rheolaeth datblygiadau

Mae'n chwarae rhan weithredol mewn nifer o bwyllgorau proffesiynol ac ymddiriedolwraig o Brifysgol Cymru ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Derbyniodd gradd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth, ac mae'n Gymrawd o Sefydliad Siartredig, Proffesiynol ym myd Llyfrgellyddiaeth a Hysbysrwydd (FCLIP)